Eleni, cynhaliwyd y Daith Fferm flynyddol yn Wallstone Farm, ger Cil-y-coed, Sir Fynwy, dan ofal Chris a Jessi Stephens. Tywydd da a thirwedd unigryw rhwng y ddwy Bont Hafren oedd cefndir y diwrnod, ynghyd â nifer dda iawn o aelodau hen a newydd. Gyda diddordeb Chris a Jessi mewn bridiau prin, gwelon ni eu poblogaeth wreiddiol (original population) gwartheg Jersey a moch Cymreig pedigri, yn ogystal â’r fuches GHC cenglog yn bennaf, yn pori’r caeau gyda’u lloi.
Adolygon ni hefyd y lloi diddyfned, gyda dosbarth meistr byrfyfyr gan David Powell, Sian Ioan a Robert Clifton – yr ‘henuriaid’ sydd wedi bod yn bridio’r gwartheg ers blynyddoedd lawer! Eu tasg oedd dewis tarw ifanc o’r grŵp o loi a ddangosodd y potensial mwyaf o ddod yn darw i’w ddefnyddio i fridio ohono. Roedden nhw yn rhoi rhesymau dros eu dewis – barnu stoc os mynnwch – mewn mannau brîd a chadarnhad o’n brîd – ac roedd pob un yn cytuno ar eu ffefryn. Rydw i‘n siŵr ein bod ni i gyd wedi dod i ffwrdd gyda rhai awgrymiadau defnyddiol i’w defnyddio wrth asesu ein buchesi ein hunain.

Ar ôl y daith, fe wnaethon ni ailymgynnull mewn neuadd bentref leol, am ginio pei a thatws stwnsh. Dilynwyd hyn gan CCB y Gymdeithas. Diolchodd y Cadeirydd, Mike Lewis, i Jessi a Chris am gynnal y digwyddiad ac roedd Mike yn falch o ddangos i bawb y bowlen rhosyn a enillon ni yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC, ar gyfer stondin gorau Cymdeithas Bridiau Gwartheg. Cafwyd naws cadarnhaol iawn i’r cyfarfod, gyda thrafodaeth ddiddorol a syniadau ar sut i symud ymlaen. Roedd yn wych gweld cymaint o aelodau newydd o bell ac agos (Cumbria): croeso i Wartheg Hynafol Cymru.
Diolch i bawb am ddod. Fel pwyllgor, rydyn ni’n falch o’ch croesawu chi i gyd i’r Gymdeithas ac edrychwn ymlaen at weld buchesi newydd yn ymddangos o amgylch Cymru a thu hwnt yn y dyfodol!
Jenny Davies, Cyd-ysgrifenydd.