Mae Gwartheg Hynafol Cymru yn frîd delfrydol ar gyfer ucheldiroedd a rhostiroedd Cymru. Maent yn wartheg hynod o galed a all ffynnu ymhob amgylchiad. Mae eu blewyn hir a’u natur galed yn golygu y gallan nhw barhau’r gaeaf ar y tir, hyd yn oed yn nannedd tywydd garw.
Yn frîd amlbwrpas yn wreiddiol, mae’r brid cyfoes yn anifail cig bendigedig. Yn gymedrol o gorff, gan bwyso tua 600-800 cilo, maent yn cynhyrchu cig blasus o ansawdd uchel. Maen nhw’n dygymod yn dda â thir gwael ac yn medru cael eu tewhau ar borfa yn unig. Mae Gwartheg Hynafol Cymru yn ddelfrydol ar gyfer pori cadwraethol.
Maent y famau da ac yn geni a magu llo yn gymharol ddidrafferth. Mae Gwartheg Hynafol Cymru yn hawdd i’w cadw ac yn ddelfrydol ar gyfer ffermwyr tiroedd uwch, tyddynwyr a bridwyr sy’n dymuno cefnogi cyfoeth ein hetifeddiaeth amaethyddol Gymreig.
Lliwiau
Dyma’r lliwiau safonol mae’r gymdeithas yn ceisio eu gwarchod dan faner Gwartheg Hynafol Cymru.
Gwyn
Heddiw, y lliw hwn, ynghyd â’r lliw cenglog, yw’r mwyaf poblogaidd o’r lliwiau answyddogol y gwartheg Cymreig. Yn sicr, dyma’r lliw sy’n cael ei ddogfennu hiraf mewn hanes. Yn wreddiol, roedd pobl yn ffafrio gwartheg â chlustiau coch. Heddiw, mae gan y mwyafrif o wartheg gwyn Cymreig glustiau du, er bod unigolion â chlustiau coch yn dal yn digwydd. Ar un pryd, roedd y lliw hwn yn fwy cyffredin yn Ne Cymru nac yn y Gogledd.
Cenglog
Y lliw patrymog hyn, a all gael ei weld gyda rhai du a choch gan amlaf, yw’r lliw mwyaf agored i feirniadaeth o beidio a bod o wir darddiad Cymreig. Roedd yn sicr wedi tarddu yng Ngogledd Cymru ar stâd Nannau siŵr o fod, lle roedd Syr Robert Vaughan yn mewnforio gwartheg – y math Lakenfelder yn ôl pob tebyg – yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif.
Coch
Dyma’r lliw mwyaf cyffredin, ar wahan i’r du, mewn gwartheg Cymreig. Mae’n ymddangos yn gyson ymysg gyrr i fyny ac i lawr y wlad gan gynnwys nifer o rai pedigri. Hyd yn hyn, ychydig o ddiddordeb yn unig sydd wedi bod mewn bridio gwartheg coch, sy’n bridio’n gyson gan fod y lliw yn wan. Does dim llawer o berygl y bydd y lliw’n diflannu yn y dyfodol agos. Mae’r coch yn llachar iawn mewn gwartheg Cymreig, ac mae’n eithaf gwahanol i goch tywyll, cyfoethog y Devon.
Cefngwyn
Os caiff gwartheg gwyn â chlustiau lliw eu paru ag anifeiliaid du neu goch a bod yr hil sy’n dilyn yn cael eu paru ag anifeiliaid du a choch hefyd, caiff gwartheg cefngwyn eu taflu mewn un neu dwy genhedlaeth. Y patrwm cefngwyn yw’r mwyaf tywyll a’r anifail gwyn â chlustiau lliw yw’r mwyaf golau. Yng Ngogledd Cymru, mae’r berthynas yn cael ei phwysleisio gan y tueddiad i lasu yn y gwartheg gwyn Cymreig a hefyd cefngwyn.
Glas
Yn ôl traddodiad, mae’r gwartheg glas Cymreig yn well i’w godro na’r Gwartheg Duon Cymreig. Heb os, roedd pobl yn credu hyn ar ôl i deirw Byrgorn gael eu defnyddio mewn rhai gyrr Cymreig. Cafodd y brîd Albion Glas ei ffurfio yn Derbyshire drwy groesi gwartheg Duon Cymreig a oedd wedi cael eu mewnforio gyda theirw Byrgorn gwyn neu frith. Efallai bod ar rai o’r gwartheg glas Cymreig ddyled i’r gwartheg croes Byrgorn am eu lliw yn y gorffennol, ond cafodd y lliw ei gofnodi ymysg y gwartheg Cymreig cyn cyflwyno’r gwartheg Byrgorn, a gwelir perthynas agos yng Ngogledd Cymru rhwng yr amrywiaethau gwyn, y cefngwyn a’r glas.
Llygliw
Roedd y lliw hwn, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘lliw llygoden’ a ‘wyneb llwydaidd’, yn gyffredin ar un adeg ym Mhenrhyn Llŷn ac yn yr ardaloedd hynny o Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn a oedd yn cwrdd â ffin Lloegr. Cafodd y grŵp olaf eu bridio gan ddefnyddio teirw Henffordd a Byrgorn, ond mae’r lliw yn dal i ddigwydd ychydig mewn gyrr Gwartheg Duon er nad yw mor gyffredin â’r coch.