Mae’r Cylchlythyr Calan Gaeaf 2020 ar gael yma.
Cylchlythyr – Calan Gaeaf 2020
Aelodaeth, Gyrr Talwrn, Teirw a lluniau hyfryd!
Gwartheg Hynafol Cymru ar “Ffermio”
Mehefin 2019
Yn heulwen diwedd mis Mai ymddangosodd buches gwartheg lliw Cymreig Sian a Gareth Ioan ar raglen ‘Ffermio’ S4C. Roedden nhw’n ymateb i awgrym a wnaed gan Brif Weithredwr yr RBST, Christopher Price, bod bridiau cynhenid yn cynnig dyfodol cadarn i ffermwyr ym Mhrydain yn dilyn Brexit. Nododd Sian a Gareth sut roedd y gwartheg lliw (Gwartheg Hynafol Cymru) yn gweddu’n union i dirwedd a hinsawdd Cymru. Tynnwyd sylw hefyd at eu harferion pori darbodus a’r ffaith nad oes angen porthiant atodol arnyn nhw, gan fod yn wartheg cost-effeithiol i’w cadw. Ymddangosodd gwartheg hirgorn trawiadol Bernard Llewellyn o Garreg Cennen hefyd ar y rhaglen. Roedd hanner y rhaglen, felly, wedi ei neilltuo i ganu clodydd bridiau cynhenid a’u potensial i sicrhau dyfodol hyfyw i amaethyddiaeth yng Nghymru.
“Porwr yr Wythnos” PONT
24 Mai 2019
Corff sy’n hyrwyddo pori a chadwraeth ydy PONT (Pori Natur a Threftadaeth), ac mae “Porwr yr wythnos” gyda nhw. Yr ydym yn falch iawn i weld bod Gwydion, bustach gwyn Cymreig, ydy’r porwr yr wythnos yma. Mae e a’i gyd-weithwyr yn gweithio’n galed i Goed Cadw (Woodland Trust) yn pori yng nghoedwigoedd ar draws de Cymru, yn helpu i warchod planhigion ac anifeiliaid prin. Mae mwy o fanylion ar gael (yn Saesneg) o https://www.pontcymru.org/grazer-of-the-week-24th-may-gwydion-the-welsh-white/.