Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Hanes

Hanes Lliwgar

Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion â chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda.

Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion Deheubarth, ers canrifoedd cyn cof nes i’r fuches gael ei symud oddi yno yn 1976. Yn 1992, ar ôl bwlch o chwarter canrif, daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â’r fuwch wen Gymreig yn ôl i Ddinefwr i grwydro tiroedd yr Arglwydd Rhys unwaith eto.

Ceir disgrifiadau o wartheg, yn enwedig teirw, yng nghywyddau beirdd y Canol Oesoedd. Yn ogystal â theirw duon ceir cyfeiriadau at rhai duon â chynffon wen (rhonwyn), teirw cochion Morgannwg a tharw trilliw o Lanbryn-mair. Sonir hefyd am fuchod ‘cwrw a llaeth’ Maesyfed a gwartheg coch a choch wynepwen ym Morgannwg. Mewn cofnodion ffeiriau yng ngogledd Sir Benfro oddeutu’r flwyddyn 1600 cofnodwyd dros 15 o amrywiadau lliw mewn gwartheg brodorol a werthwyd yno.

Roedd tueddiadau lleol i liwiau gwartheg yn aml. Ymddengys fod gwartheg duon yn nodweddiadol iawn o wartheg Môn a Phenfro tra bod gwartheg llygliw yn boblogaidd ym Mhen Llyn. Sonir am wartheg coch wyneplwyd ym Maldwyn a’r gororau tra gwelwyd llawer o wartheg llwyd yn Nyffryn Banw. Nodir bod gwartheg gleision yn boblogaidd yn ardal Llanfair Caereinion a bu’n goel hyd heddiw mewn llawer ardal i gynnwys buwch las mewn buches odro er mwyn cyfoethogi’r laeth. Roedd gwartheg cochion Morgannwg, a ystyrid yn frid o’u rhan eu hunain, yn aml yn cynnwys gwartheg cefngwyn a bolwyn. Ym Meirionnydd, o bosibl o ganlyniad i Robert Vaughan o Nannau fewnforio gwartheg Lakenfelder o’r Almaen yn y 19eg ganrif, datblygwyd straen o wartheg cenglog Cymreig a all fod yn ddu neu goch. Ceir cyfeiriadau aml hefyd mewn cofnodion at wartheg brith, brych a broc.

O sefydlu Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig yn 1905 safonwyd lliw’r fuwch Gymreig yn ddu a chafwyd gwared ar lawer o’r amrywiadau lliw. Cynyddodd y tueddiad gyda’r deddfau trwyddedu teirw yn 1914 a 1933 a prinhaodd yr amrywiadau lliw gydol yr ugeinfed ganrif. Er hynny, cadwyd peth stoc lliw ar ambell i fferm dros y ganrif – yn enwedig drwy deirw gwynion a cenglog nas cofrestrwyd a pharhaodd lliwiau sy’n ymgiliol i’r lliw du yn y fuches Gymreig yn gyffredinol. Mae’n debyg fod nodweddion y fuwch lwyd a gwartheg Morgannwg wedi eu colli erbyn heddiw ond mae chwech lliw i’w cael o hyd:

gwyn,   cenglog,   cefngwyn,   coch,   glas,   llygliw

To top