Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Amdanom

Gwartheg aml-liw mewn cae

Diben cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru yw diogelu a hyrwyddo amrywiaeth lliw yr hen wartheg traddodiadol Gymreig.

Cred aelodau’r gymdeithas fod diogelu amrywiaeth gwartheg hynafol Cymru yn rhan bwysig o’r etifeddiaeth amaethyddol Gymreig.

Mae’r ffaith iddyn nhw oroesi cyhyd yn brawf o’u dycnwch, eu defnyddioldeb a’u haddasrwydd i dirwedd mynyddog a gerwin Cymru.

Heddiw, mae gwerth iddynt o’r newydd fel rhan o dreftadaeth amaethyddol gyfoethog Cymru.

Ers ei sefydlu yn 1981 bu’r gymdeithas yn ceisio:

  • codi ymwybyddiaeth o fodolaeth a gwerth y gwartheg lliw Cymreig;
  • gwarchod yr amrywiaeth o liwiau trwy gofrestru gwartheg priodal, a
  • chreu marchnad arbenigol ar gyfer ein gwartheg hynafol.

Darganfod mwy am y gwartheg lliwgar a chymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru.

To top