Chwefror 22, 2026
Rhaglen arbennig ar “Y Fuwch” oedd rhaglen amaeth BBC Radio Cymru Troi’r Tir ar Chwefror 22ain – a dechreuodd y cyfan gyda Gwartheg Hynafol Cymru! Disgrifiodd Teifi Davies, aelod a ffermwr GHC, pam mae e a’i wraig, Jenny (sy’n gyd-ysgrifenyddes y Gymdeithas), yn cadw’r gwartheg. Hefyd cyfeiriodd at hanes y Gymdeithas a datblygiadau diweddaraf. Esboniodd am yr angen i fridio mwy o anifeiliaid pur ac i ffermwyr gofrestru eu hanifeiliaid. Yn olaf, soniodd Teifi am y cig o safon mae’r gwartheg yn cynhyrchu, a’u bod nhw’n rhan annatod o’n hetifeddiaeth yng Nghymru.
Parhaodd y rhaglen drwy edrych ar agweddau eraill ar gadw gwartheg, gan gynnwys y gadwyn fwyd ehangach, ychwanegu gwerth at laeth trwy ei werthu o beiriant gwerthu, a’r defnydd o gwêr cig eidion mewn balm ar gyfer cyflyrau croen.
Mae’r rhaglen ar gael yma tan 22 Mawrth.