Ffermio, S4C
Ymddangosodd gyrr o Wartheg Hynafol Cymru gwyn (gydag ambell i lo mewn lliwiau eraill) ar “Ffermio”, S4C, nos Lun 11eg Mai. Mae Coed Cadw (The Woodland Trust in Wales) yn eu defnyddio nhw i helpu rheoli’r tir ar Fferm Brynau, ger Castell-nedd. Mewn heulwen braf, gwelwyd y gwartheg fynd ati yn gwneud pori cadwraethol er lles sawl rhywogaeth brin. Soniodd Llinos Humphreys, Coed Cadw, am bwysigrwydd y gwartheg nid yn unig o ran eu rôl mewn cadwraeth a threftadaeth Cymru, ond hefyd am eu bod nhw’n rhan o fusnes y fferm.
Cewch wylio’r rhaglen fan hyn tan tua diwedd mis Medi, yn dechrau am 14:50 munud (yn syth ar ôl yr hysbysebion). Is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael. Mwy am Fferm Brynau fan hyn (yn Saesneg).
Troi’r Tir, BBC Radio Cymru
Hefyd, cafodd gwrandawyr BBC Radio Cymru cyfle i glywed eto rhaglen arbennig “Troi’r Tir” o fis Chwefror a oedd yn trafod “Y Fuwch”. Dechreuodd y sioe â chyfweliad gyda Teifi Davies, am ei wartheg GHC. Mae’r rhaglen ar gael fan hyn tan ganol mis Mehefin.