Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Ar Werth

Llo tarw ar werth

Red belted bull calf

Bydd angen i Dyfi Bendigeidfran symud ymlaen wedi’i ddiddyfnu yr haf hwn (Gorffennaf / Awst).

Ef yw’r ail lo o Banc Dryw x Nympsfield Keith, a anwyd yn yr awyr agored heb unrhyw ymyrraeth ym mis Rhagfyr 2025, allan ar borfa trwy gydol ei oes hyd yn hyn. Mae e wedi arfer â ffensys trydan ond bydd yn elwa o ddysgu am adeiladau a pheiriannau. Mae’n gorniog.

Dyfi Bendigeidfran llo tarw, bull calf
Dyfi Bendigeidfran (mis Mai)
Dyfi Bendigeidfran (mis Chwefror)

Sefydlwyd buches Dyfi yn 2020, mae’n rhydd o’r dicáu (TB) ac roedd yn rhan o’r grŵp sgrinio dolur rhydd feirysol buchol (BVD) ym mis Mehefin 2026, gyda’r holl ganlyniadau’r negyddol. Nid oes unrhyw driniaethau cemegol yn cael eu defnyddio yn rheolaidd. Mae gan y gwartheg fynediad at ystod eang o borthiant; brigdocio yn ogystal â phori.

Coeden deuluol Ben:

Ar hyn o bryd, mae e wedi’i leoli ger Llanfechain, Powys.

Llo pedigri cofrestredig llawn ydy Ben, ac felly mae’n rhaid i’r prynwr fod yn aelod o Gymdeithas Brîd Gwartheg Hynafol Cymru ac wedi ymrwymo i fridio a chofrestru stoc GHC pedigri.

Dyfi Bendigeidfran a’i fam, Banc Dryw
Mam a chwaer lawn Ben yn yr eira

Am fwy o wybodaeth, anfonwch ebost  at: poribach+ben2026[at]gmail[dot]com

To top