Gyda thristwch mawr y clywyd am farwolaeth Mr Tim Ash, Llywydd Anrhydeddus Gwartheg Hynafol Cymru.
Trwy ei weledigaeth a’i waith caled ef y daeth GHC i fod. Iddo ef mae’r diolch ein bod ni, fel Cymdeithas, yn parhau i gefnogi a hyrwyddo’r brîd brodorol Cymreig unigryw ac arwyddocaol hwn.
Oni bai am ymdrechion Tim Ash, a sefydlwyr brwd eraill y Gymdeithas, ni fyddai’r gwartheg hyn wedi goroesi. Hebddo ni fyddant bellach nemor troednodyn yn hanes Cymru. Fwy na thebyg byddem wedi eu colli’n gyfan gwbl fel brîd.
Mae arnom ddyled fawr i Tim Ash, a diolchwn iddo am y gwaddol gwych a adawodd ar ei ôl. Iddo ef y mae’r diolch bod cyfle bellach i genedlaethau’r dyfodol fedru gwerthfawrogi a mwynhau gwartheg lliw Cymru.
Mike Lewis Cadeirydd, Cymdeithas Brîd Gwartheg Hynafol Cymru