Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Newyddion Yn y Cyfryngau

Gwartheg Hynafol Cymru a’r Gwybedog Brith

White cow browsing a hedge

Ymddangosodd gyr o Wartheg Hynafol Cymru, sy’n eiddo i’n Is-gadeirydd, Helen Upson, yn y cyfryngau yn ddiweddar diolch i’w rôl yn gwella’r cynefin ar gyfer y Gwybedog Brith (Pied Flycatcher, Ficedula hypoleuca) yng Ngwarchodfa Natur yr RSPB Ynys-hir, ger Machynlleth.  Mae Helen yn defnyddio ei gyr ar gyfer pori cadwraeth, lle mae’r anifeiliaid yn cael eu defnyddio i bori ar raddfeydd a dwyseddau sy’n caniatáu i dirweddau ddod yn fwy amrywiol a bioamrywiol, ac i amddiffyn rhai anifeiliaid, adar a phryfed arbenigol.  Yn achos y Gwybedog Brith, roedd eu niferoedd wedi gostwng 59% rhwng 1997 a 2022, ond maent bellach wedi sefydlogi yn RSPB Ynys-hir ers i gyr Pori Bach fod yno.  Mae hyn yn arbennig o amlwg mewn coetiroedd sy’n cael eu pori gan y gwartheg.

Cyhoeddodd y Cambrian Times y stori ar 6 Tachwedd 2024 (yn Saesneg).

Bu rhaglen BBC Radio Wales Breakfast hefyd yn cyfweld â rheolwr safle’r Warchodfa, David Anning, ar yr 8fed o Dachwedd. (Gwrandewch yma tan 6 Rhagfyr, gan ddechrau am 50:40)

(Llun: Helen Upson)

To top