Mawrth 2025
Testun erthygl arbennig yn y Farmers Guardian oedd fferm ein Trysorydd a’n Cyd-ysgrifennydd, Jessi Stephens, yn ddiweddar. Mae Jessi, ei gŵr Chris a’u plant yn cadw gwartheg GHC, ychydig o wartheg Jersey a moch Cymreig ar lannau aber Hafren, fel y gwelsom yn ystod ein hymweliad fis Medi diwethaf. Yn yr erthygl, maen nhw’n disgrifio’r daith a arweiniodd at y fferm a rhai o’r gwersi niferus maen nhw wedi’u dysgu. Maent hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y gymuned leol ac yn trafod eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae anifeiliaid GHC yn ymddangos yn amlwg yn y lluniau….
Gallwch ddarllen yr erthygl (yn Saesneg) yma. Os nad ydych chi’n aelod o’r Farmers Guardian, bydd angen i chi gofrestru i ddarllen un erthygl yr wythnos.