Gyda thristwch a sioc rwy’n cofnodi colli John o’n plith ar 29 Chwefror 2016. Roedd John yn gyfaill parod iawn ei gymwynas bob tro roedd ei angen. Fel tywysydd ym marchnad Dolgellau y des i’w adnabod gyntaf; a hynny yng nghwmni fy nhad a oedd yn adnabod tad John, Wmffre Nant y Gwyrddail. Bu John yn selog iawn i farchnad Dolgellau dros y blynyddoedd, yn trefnu’r anifeiliaid ac yn eu llwytho yn rhwydd bob amser.
Roedd cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru yn rhan bwysig iawn o fywyd John. Bu’n aelod o’r cychwyn cyntaf yn yr wythdegau. Pan ymunais i gyda’r gymdeithas John oedd y Cadeirydd a’r Trysorydd ac roedd yn paratoi yn drylwyr iawn bob tro roedd cyfarfod.
Fel y Cadeirydd cyfredol anodd iawn yw hi i mi dalu’r deyrnged fach hon iddo, gan fy mod yn teimlo cryn hiraeth ar ei ôl. O’i golli mor sydyn bydd bwrdd swyddogion y Gymdeithas â chadair wag arni unwaith eto eleni. Gwelwyd colli John fis Medi diwethaf yn ein cyfarfod blynyddol gan nad oedd yn teimlo’n ddigon hwylus i ddod atom. Mae’n siŵr gen i mai dyna’r cyfarfod cyntaf i John ei golli erioed.
Mae colli John yn gadael bwlch mawr i ni fel Cymdeithas. Ond cofiwn am Marian ei bartner sydd yn ei hiraeth ar ôl un annwyl iawn. Erys cofion da am un a roes ei orau i bob agwedd o’i fywyd.
Geraint Rhyd-y-gof
Cadeirydd GHC