Ebrill 2016
Cafodd GHC sylw yn ddiweddar ar raglen ITV Cymru ‘Coast and Country’. Darlledwyd yr eitem ar 22 Ebrill ac roedd yn cynnwys trafodaeth am hanes y gwartheg a’r gymdeithas, ynghyd â sgyrsiau gyda Sian a Gareth Ioan a Geraint Jones Lewis. Roedd y gwartheg yn edrych yn hyfryd ac er i Ruth Wignall sôn pa mor wydn oedden nhw yn nannedd tywydd garw, roedd y buchod yn mwynhau diwrnod heulog o haf – dau haf yn ôl! Os i chi golli’r rhaglen gallwch ei ddal eto ar fersiwn ITV Cymru o Clic tan 21 Mai. Mae’r wefan yn nodi y bydd y rhan fwyaf o raglenni ar gael am 30 diwrnod. Mae eitem GHC yn dechrau ar 15:50.