Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Newyddion Newyddion

CCB ac ymweliad fferm 2014

Cafwyd CCB difyr a llwyddiannus iawn ar 27ain Medi. Dechreuwyd trwy gyfarfod am bryd bys a bawd blasus iawn, trwy garedigrwydd Tegwen Burns, perchennog fferm Pen-lan ger Cydweli.

Burn's young bull close

Dechreuwyd trwy weld y gwartheg ifanc, gan gynnwys tarw gwyn ifanc cydnerth. Yna dringodd pawb i ben treilyr pwrpasol am daith o amgylch y fferm. Gwelwyd rhagor o’r stoc ynghyd â dysgu mwy am y mentrau amrywiol sydd wedi eu lleoli ar y fferm. Cafwyd darlun diddorol o’r modd y gellir priodi ffermio â gofal am fyd natur. Diolch yn fawr i Rowan Flindall a staff y fferm am y daith a’r wybodaeth.

Ar ôl mwy o luniaeth aethpwyd ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd i’r Llew Coch, Llandyfaelog, i gynnal y cyfarfod ffurfiol. Dosberthir y cofnodion maes o law ond ymhlith y prif bwyntiau oedd – ailethol y swyddogion, adroddiad ar ddatblygu’r wefan ac adroddiad ar y trafodaethau ynghylch sicrhau cydnabyddiaeth lawn i’r brid. Atgoffwyd aelodau i GOFRESTRU eu gwartheg os gwelwch yn dda.

Ar ôl toriad am swper cyhoeddwyd enillwyr y Sioe Luniau flynyddol a dosbarthwyd y gwobrau.

Penlan tour 2014

Diolch i Tegwen a’r staff ar fferm Penlan, staff y Llew Coch ynghyd â Siân a Gareth Ioan am drefnu diwrnod gwerth chweil.

To top