Mehefin 2019
Yn heulwen diwedd mis Mai ymddangosodd buches gwartheg lliw Cymreig Sian a Gareth Ioan ar raglen ‘Ffermio’ S4C. Roedden nhw’n ymateb i awgrym a wnaed gan Brif Weithredwr yr RBST, Christopher Price, bod bridiau cynhenid yn cynnig dyfodol cadarn i ffermwyr ym Mhrydain yn dilyn Brexit. Nododd Sian a Gareth sut roedd y gwartheg lliw (Gwartheg Hynafol Cymru) yn gweddu’n union i dirwedd a hinsawdd Cymru. Tynnwyd sylw hefyd at eu harferion pori darbodus a’r ffaith nad oes angen porthiant atodol arnyn nhw, gan fod yn wartheg cost-effeithiol i’w cadw. Ymddangosodd gwartheg hirgorn trawiadol Bernard Llewellyn o Garreg Cennen hefyd ar y rhaglen. Roedd hanner y rhaglen, felly, wedi ei neilltuo i ganu clodydd bridiau cynhenid a’u potensial i sicrhau dyfodol hyfyw i amaethyddiaeth yng Nghymru.