Mae llyfr hardd iawn wedi ei gyhoeddi yn yr Iseldiroedd, llyfr sy’n olrhain eu brid cysefin o wartheg cenglog – y Lakenfelder. Cyhoeddir y llyfr Gyhoeddwyr Amaethyddol Roodbont a’i enw yw “De Lakenfelder: niet uit het veld te slaan”. Mae’r llyfr yn sôn am bob math o agweddau, o geneteg gwartheg cenglog i rysáit am Stroganoff!
Mae ynddo gyfoeth o luniau gyda ffotograffau hardd a darnau celf, gan gynnwys peintiadau ogof, darlun o’r Stabal Nadoligaidd o 1438 a lluniau cyfoes. Gallai aelodau sy’n ystyried arallgyfeirio gael ysbrydoliaeth o dudalen 167, lle gwelir dwy fuwch genglog yn tynnu cart llawn o blant ar daith fferm.
Mae’r llyfr hefyd yn cyfeirio at wartheg cenglog o wledydd eraill, gan gynnwys gwartheg Galloway a gwartheg Cymreig. Daeth yr awdur, Reurt Boelema, i gyswllt â Mike Lewis drwy’r wefan ac mae’r llun a anfonodd Mike ati, ynghyd â thestun esboniadol byr, i’w weld ar dudalen 58. Wele gyfieithiad o’r Iseldireg isod:
Gwartheg Cenglog Cymreig
Mae’r fuwch genglog Gymreig yn fath corniog o fuwch ddu genglog. Daw’r brid o Gymru a dywedir gan rai ei fod yn groesiad o’r fuwch ddu Gymreig a tharw Lakenfelder. Ar y llaw arall dywed eraill bod gwartheg cenglog wedi bod yn rhan o‘r fuches Gymreig ers miloedd o flynyddoedd a’i bod felly yn un o fridiau cynhenid cynharaf Prydain. Nid oes modd profi eu tarddoad ond maen nhw’n brin iawn erbyn heddiw. Mae’r ffynonellau mwyaf dibynadwy yn nodi i’r fuwch ddu Gymreig ddod i fodolaeth yng nghanol y 19fed ganrif drwy gymysgu dau amrywiad ohono – math y De a math y Gogledd. Daw’r cofnod cyntaf o wartheg cenglog Cymreig o 1777. Mae’r gwartheg yma yn nwylo’r teulu Ifans.
Mae’n siŵr mai teulu Jonesiaid Beddcoedwr maen nhw’n ei feddwl!