Hydref 2025
Tynnwyd sylw at y rôl werthfawr y mae bridiau brodorol, gan gynnwys Gwartheg Hynafol Cymru, yn ei chwarae mewn amaethyddiaeth adfywiol ddechrau mis Hydref yng Nghydgyfeirio Gwir Fwyd a Ffermio 2025 (Marches Real Food and Farming Convergence, MRFFC), a gynhaliwyd yn Fferm Square, ger Trefynwy.
Roedd ein Trysorydd, a cheidwad brwd GHC, Jessi Stephens, yn rhan o banel o ffermwyr a phorwyr a oedd yn ymgymryd ag arferion adfywiol. Disgrifiodd Jessi bwysigrwydd y nodweddion y mae’r anifeiliaid hyn yn eu cynnig, gan gynnwys gwydnwch mewn tywydd eithafol, y gallu i fyw ar gynnyrch porfa yn unig, a’u hiechyd da yn gyffredinol. Mae’r rhinweddau hyn yn golygu eu bod yn economaidd i’w cadw, sy’n help mawr i ffermwyr sydd yn newydd i’r diwydiant.
Mewn trafodaeth eang, rhoddodd y panelwyr – Jessi, Ben Taylor-Davies (sy’n fwy enwog fel Regen Ben), Joe Ryder (Swyddog Pori Cadwraeth Ymddiriedolaeth Natur Gwent) a’r ffermwr organig a gwesteiwr MRFFC 2025, Rob Whittle – lawer o gyngor i ffermwyr sy’n dymuno gwybod am ffermio adfywiol. Cadeiriwyd y sesiwn gan Chris Taylor, agronomegydd.
Cynhaliwyd yr MRFFC ar y 3ydd a’r 4ydd o Hydref a dyma oedd ei drydedd flwyddyn. Archwiliodd sut i adeiladu systemau bwyd lleol yn y Gororau a chynigiodd amrywiaeth o sesiynau o ffermio cydweithredol ar raddfa yr ystâd i wella prydau ysgol i deithiau cerdded ar y fferm.
Llun: Dan Taylor (agronomegydd), Ben Taylor-Davies (Regen Ben), Jessi Stephens (GHC, Fferm Wallsend), Joe Ryder (Ymddiriedolaeth Natur Gwent) and Rob Whittle (Fferm Square) yn trafod ffermio arfywiol yn MRFFC.