Yn gynharach eleni, cafodd Gwartheg Hynafol Cymru yr anrhydedd o fod yn destun cyntaf cyfres achlysurol o “eiconau Cymreig” yng nghylchgrawn Welsh Country.
Mae’r erthygl, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn cynnwys hanes, arwyddocâd diwylliannol a lliwiau derbyniol y brîd. Yn hollbwysig, mae hefyd yn atgoffa darllenwyr nad hobi yn unig yw’r gwartheg ond bod ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn gwaith amgylcheddol a chadwraeth – a hefyd yn cynhyrchu cig tendr gyda blas da.
Mae Welsh Country yn gylchgrawn ar-lein (a argraffwyd gynt) sy’n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys pentrefi Cymru, hanes, bywyd gwyllt, cerdded a garddio.
Mae’r erthygl ar gael yma (yn Saesneg).