12 Rhagfyr 2025
Yn ddiweddar, ymwelodd y rhaglen Farming Today ar Radio 4 â buches Hafren o wartheg GHC, sy’n eiddo i’n Cyd-ysgrifennydd a’n Trysorydd, Jessi Stephens. Roedd y cyfweliad yn rhan o wythnos lle roedd ffocws ar fridiau da byw prin a brodorol. Disgrifiodd Jessi ei buches a’r manteision y mae gwartheg GHC yn eu rhoi i system mewnbwn isel.
Gallwch glywed y cyfweliad (yn Saesneg) yma (tan 9fed Ionawr 2026).