Rhagfyr 19, 2025
Ymddangosodd Gwartheg Hynafol Cymru yn rhifyn Nadolig y Farmers Guardian am yr eildro yn 2025. Mewn adolygiad o’r flwyddyn, tynnodd Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Goroesi Bridiau Prin (RBST), Christopher Price, sylw at nifer o lwyddiannau’r sefydliad gan gynnwys cydnabod Gwartheg Hynafol Cymru ar Restr Wylio (Watchlist) RBST a dechrau rhaglenni i gynyddu niferoedd anifeiliaid GHC a chasglu deunydd ar gyfer Banc Genynnau Da Byw Cenedlaethol y DU.
Yn ystod 2025, ymgyrchodd yr RBST hefyd dros ladd-dai lleol bach a hyrwyddo rôl bridiau brodorol wrth gefnogi’r amgylchedd naturiol, ymhlith llawer o weithgareddau eraill.
