Yn dilyn yr holl ymdrech a aeth i ddod yn Elusen Gofrestredig a chael ein derbyn ar restr wylio’r Ymddiriedolaeth Goroesi Bridiau Prin (Rare Breeds Survival Trust, RBST), roedd Gŵyl Wanwyn CAFC ym mis Mai yn gyfle i ddathlu ein llwyddiannau a hyrwyddo brîd hardd Gwartheg Hynafol Cymru.
Dros y penwythnos, buom yn siarad â llif cyson o ymwelwyr i’n stondin, a oedd yn fwy o faint na’r arfer diolch i haelioni Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Gan roedd y safle yn fwy, roeddem yn gallu croesawu Coed Cadw / The Woodland Trust in Wales fel rhan o’n stondin. Mae gan Goed Cadw buches o wartheg gwyn GHC yn pori rhai o’u safleoedd. Roeddem hefyd yn gallu cyflwyno llawer o wybodaeth am fanteision a defnyddiau niferus ein gwartheg, ac roedd y ddwy heffer wen, diolch i Gadeirydd GHC, Mike Lewis, yn boblogaidd iawn. Gwnaed rhai cysylltiadau cadarnhaol, a chafwyd llawer o sgyrsiau diddorol. I goroni’r penwythnos, enillom Stondin Gorau Cymdeithasau Bridiau Gwartheg.

Ar y prynhawn Sadwrn, cynhaliwyd derbyniad byr i ddiolch i’n haelodau a’n bridwyr am eu holl ymdrechion dros y degawdau a nodi ein cyflawniadau yn y flwyddyn ddiwethaf. Wedi’i gydlynu’n fedrus gan yr Is-gadeirydd, Helen Upson, clywodd y gynulleidfa gan Mike Lewis o GHC, a Mark Davies o RBST, wrth fwynhau sudd afal ac amrywiaeth o wahanol blasau picau ar y maen. Diolch i Lantra am ganiatáu inni ddefnyddio eu cyfleusterau, ac i’r aelodau Mike a Jane Ricketts Hein am gyflenwi’r lluniaeth.