Chwefror 29 2016
Gyda chryn dristwch y mae’n rhaid i ni eich hysbysu i’n Trysorydd, John Rees, ymadael â ni yn ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd. Roedd John wedi bod yn anhwylus dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf. Roedd arwyddion ei fod yn gwella ond fe gollodd y dydd yn sydyn yn y dyddiau diwethaf yma.
Bu John yn gefnogol iawn i GHC, gan wasanaethu fel Trysorydd ers y dechreuadau dros 30 mlynedd yn ôl. Bydd colled mawr ar ei ôl. Mae ein cydymdeimlad â’i bartner Marian a gweddill ei deulu yn ddwys.