Gorffennaf 2025
Mae gyr Pori Bach sy’n eiddo i’n Is-gadeirydd, Helen Upson, wedi bod yn y newyddion eto wrth iddynt barhau â’u gwaith hanfodol i wella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

Yn yr achos hwn, bu’r Powys County Times adrodd bod dau o wartheg Helen yn pori bryn mawr ger Clwb Golff Llanymynech er budd gloÿnnod byw prin. Trwy bori a throedio’r ardal, bydd y prysgwydd a’r coed a oedd wedi bod yn cymryd drosodd yn cael eu teneuo a bydd amodau’n fwy addas ar gyfer gloÿnnod byw fel y Gwibiwr Brith (Pyrgus malvae, Grizzled Skipper) a’r Gwibiwr Llwyd (Erynnis tages, Dingy Skipper). Gallwch ddarllen yr erthygl (yn Saesneg) yma: https://www.countytimes.co.uk/news/25281727.cows-return-powys-hill-first-time-since-1970s/
Hefyd, cyhoeddwyd y stori yn Wales Farmer yn rhifyn Awst.