Yng nghyfarfod blynyddol Gwartheg Hynafol Cymru yn ddiweddar cyflwynwyd rhodd o werthfawrogiad i’r ysgrifenyddion Siân a Gareth Ioan.  Yng nghanolfan fferm organig Rhug ym mis Medi cyflwynodd y Cadeirydd, Geraint Jones Lewis, y ddau gyda phlât pren hardd wedi ei ysgythru, ynghyd â phenillion a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.  Esboniodd Geraint i’r aelodau bod Gareth a Siân yn gweithio’n galed iawn i datblygu’r gymdeithas a nad oedden nhw o bosibl yn derbyn y gydnabyddiaeth roeddwn nhw’n ei haeddu.  Cefnogodd yr aelodau y sylwadau a’r anrhegi yn galonnog iawn.
