Mawrth 2017
Gwahoddir pob ffermwr yr ucheldir yng Nghymru i gynhadledd undydd rhad ac am ddim yng Nghanolfan Cynadledda a Busnes Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst, Conwy LL26 0DF ar 15 Mawrth 2017.
Bydd y digwyddiad yn cynnig y cyfle:
 i drafod canlyniadau posibl gadael yr UE, ac effaith polisïau a deddfau newydd Cymru ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd ar ffermio’r ucheldir.
 i ystyried y berthynas rhwng ffermwyr a’r tirwedd, mynediad, yr amgylchedd a natur.
 i ffermwyr drafod a chyfrannu at ddatblygu polisïau ar gyfer dyfodol ffermio’r ucheldir yng Nghymru.
Archebwch le drwy Eventbrite.
Hysbyseb:
