Ymunwch â ni yn ardal Llanymynech, ger Croesoswallt, ar brynhawn dydd Sadwrn 11eg Hydref 2025, ar gyfer ein Taith Gerdded Fferm flynyddol a’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Byddwn yn gweld rhai o’r fuches Dyfi ac yn clywed am y gwaith diddorol a chymhleth sy’n gysylltiedig â chadwraeth pori yn lleol.
Sylwer, mae croeso i bawb fynychu’r Daith Gerdded Fferm a’r CCB, ond dim ond aelodau GHC fydd yn gallu pleidleisio, felly gwnewch yn siŵr bod eich aelodaeth yn gyfredol. Os hoffech ymuno â’r Gymdeithas, cysylltwch â ni. Bydd manylion llawn ar gael yn fuan iawn.
Llun gan Helen Upson