Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Nodweddion y Brîd

Golwg cyffredinol

Anifail caled o gorfforaeth canolig. Corff hir a chymharol ddwfn. Ffrâm gadarn gyda cefn syth ar ei hyd.

Pen a chyrn

Pen o faintioli cymedrol gyda thalcen llydan a dyfnder drwy’r ên. Llygaid mawrion tawel. Clustiau hytrach yn fawr â blew man. Cyrn llydan a gwastad.

Gwddf

Gwddf gref â llwnc clir. Mae tagell yn dderbyniol ar deirw a buchod hŷn.

Ysgwyddau

Ysgwyddau heb fod yn amlwg, yn gweddu i’r corff dros goesau blaen syth.

Corff

Corff cadarn gydag asgwrn da, dyfnder corfforol ac asennau cryfion. Bôn y gynffon heb fod yn rhy amlwg.

Cluniau, coesau ôl a charnau

Coesau gweddol lydan at gymal yr egwyd. Asgwrn cryf. Digon o led rhwng yr egwydau. Coesau ôl yn syth drwy’r egwyd. Carnau cadarn.

Cadair

Cadair daclus heb fod yn llac gyda thethi o faint canolig wedi eu gosod yn gymesur.

Croen a blew

Croen gweddol drwchus ond hyblyg. Cot lawn o flew meddal, trwchus a chymharol hir.

Lliw

Cofrestrir chwe lliw amrywiol:

  • Gwyn gyda nodweddion duon (neu goch)
  • Du (neu unrhyw liw arall) gyda chengl wen rhwng yr ysgwydd a’r clun
  • Coch
  • Glas
  • Llygliw
  • Cefngwyn – unryw liw gyda llinell wen o’r gwegil, ar hyd y cefn, y gynffon a tan y bol.

Noder: Nodweddion delfrydol yw’r lliwiau uchod ac fe ellir cofrestru anifeiliaid sy’n meddu ar amrywiadau ar y lliwiau uchod neu sydd â phatrwm anghyflawn os yw’r anifail o deip dilys. Er enghraifft, gall rhai anifeiliaid gwynion â nodweddion tywyll fod braidd yn frych, gall cenglau a chefnau gwyn fod yn anghyflawn. Er yn llai na’r ddelfryd gall gwartheg felly gael eu cofrestru gyda GHC. Bydd GHC hefyd yn cofrestru gwartheg duon sy’n epil i wartheg lliw hyd at yr ail genhedlaeth er mwyn diogelu achresi.

Lawrlwythwch Nodweddion y Brîd.

To top