Cynhaliwyd CCB llwyddiannus a dau ymweliad fferm gwahanol iawn ar 19 Medi 2015, gyda chymorth tywydd teg unwaith yn rhagor! Ar ôl cyfarfod yng Nghanolfan Ystâd Rhug, ger Corwen, am ginio sydyn cawsom daith anturus i weld gwartheg hyfryd fferm Wenallt Fawr, Maerdy, trwy garedigrwydd Hedd a Helen Jones. Ar lethrau bryniau Meirionnydd gyda’r haul yn gwenu, cawsom ymdeimlad hynod o fod ar dir hafod yng nghwmni buches o dras hynafol yn eu priod amgylchedd.
Yn ôl â ni wedyn i Rhug i gael taith mewn treilyr o amgylch yr ystâd nodedig hon yng nghwmni’r rheolwr Gareth Jones a’i wraig Fran. Roedd yn wers ynghylch sut i arallgyfeirio – o gynnal digwyddiadau cymunedol, gosod paneli solar i gynhyrchu ynni, amrywiaeth o anifeiliaid a dofednod a’r siop cynnyrch fferm enwog. Yr uchafbwynt i’r mwyafrif oedd y cae o fual (gair newydd i ni – bison). Er mai ychydig o’r aelodau gaiff y cyfle i ffermio ar raddfa Ystâd Rhug roedd yna ddigon i gnoi cil arno wrth i ymgasglu yn yr ystafell gynadledda ar gyfer y CCB a’r sioe luniau.
Bydd cofnodion y CCB yn cael eu dosbarthu maes o law ond y cyfamser – ail etholwyd y swyddogion cyfredol, gyda diolch arbennig i’r ysgrifenyddion am eu gwaith. Derbyniodd yr aelodau y neges flynyddol ynghylch pwysigrwydd COFRESTRU eu hanifeiliaid.
Cyhoeddwyd buddugwyr y sioe luniau, a feirniadwyd yn garedig gan Dewi Jones. Enillodd Meirion Owen y bencampwriaeth am y drydedd flynedd o’r bron, gyda Geraint Jones Lewis yn hawlio’r gilwobr. Llongyfarchiadau i bawb.
Daeth y noson i ben gyda phryd o fwyd blasus ym mwyty’r ganolfan, gyda chynnyrch y fferm yn amlwg ar y fwydlen.
Mae’r gymdeithas yn hynod ddiolchgar i Hedd a Helen Jones, rheolwyr a staff Ystâd Rhug, Dewi Jones am feirniadu heb anghofio Siân a Gareth Ioan am drefnu’r cyfan.