Mae Cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru yn diogelu ac yn hyrwyddo amrywiaeth lliw ein buches genedlaethol wreiddiol.
Roedd gwartheg Cymru yn arfer bod yn amrywiol eu lliw – gwyn, coch, glas, cenglog yn ogystal â du. Roedd lliwiau gwahanol yn boblogaidd mewn gwahanol ardaloedd.
Er cael eu hesgeuluso am genedlaethau, cadwyd yr amrywiaeth lliw ar rhai ffermydd bychain ym mryniau canolbarth Cymru, lle roedd y gwartheg yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwytnwch a’u haddasrwydd i’r hinsawdd garw.
Heddiw mae’r gwartheg hanesyddol hardd yma yn profi dadeni dan warchodaeth Cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru a sefydlwyd yn 1981.
Dewch i gael cipolwg ar wartheg gwreiddiol Cymru.
Ar y tudalennau yma gallwch:
- ddod i wybod mwy am y gwartheg lliwgar
- dysgu am waith y gymdeithas
- darllen y newyddion diweddaraf
- cael gwybod am ddigwyddiadau
- pori yn hanes cyfoethog y gwartheg
- gweld lluniau o’r gwartheg
Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu sylw, mae croeso i chi gysylltu.
Chwedl Llyn y Fan
Mae Cymdeithas Brid Gwartheg Hynafol Cymru yn Elusen Gofrestredig rhif: 1210785