Croeso i CCB a Thaith Fferm 2024.
Diolch i Jessi a Chris Stephens, Wallstone Farm, Portskewett, Sir Fynwy, NP26 5TU am y gwahoddiad. Bydd amserlen y diwrnod fel a ganlyn:
12:00 Cyrraedd a choffi
12:30 Taith fferm ac asesiad stoc bridio ifanc
2:00 Cinio
3:00 Cyflwyniad ar Bori Cadwraeth
3.30 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Mae gan Jessi a Chris fferm o anifeiliaid brîd prin, felly yn ogystal â’r gwartheg GHC mae ganddyn nhw foch Cymreig pedigri a gwartheg Jersey o’r boblogaeth wreiddiol.
Bydd cinio pastai a thatws ar gael am gost o £12. Rhowch wybod i ni am eich dewis ymlaen llaw a rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau fel y gellir arlwyo ar eu cyfer. (Mae croeso i chi ddod â’ch pecyn bwyd eich hun os byddai’n well gennych). Y dewis yw: cig eidion a chwrw, cig eidion a chaws glas, neu gaws, tatws a chennin.
Rhowch wybod i Jenny Davies am eich bwriad i fod yn bresennol erbyn dydd Sul, 29 Medi. E-bost: ancientcattlewales[at]gmail[dot]com