Fe’ch gwahoddir yn gynnes i Daith Gerdded Fferm a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol GHC, a gynhelir yn garedig gan Is-gadeirydd GHC, Helen Upson. Ymunwch â ni yn Llanymynech, ger Croesoswallt ar ddydd Sadwrn, Hydref 11eg 2025 i weld rhywfaint o fuches Dyfi a chlywed am y gwaith diddorol a chymhleth sy’n cael ei wneud i ailgyflwyno pori dros tua 17 hectar o SoDdGA a Heneb Gofrestredig – ac sy’n gynnwys cwrs golff!
Byddwn yn ymgynnull yn Neuadd Bentref Llanymynech, lle byddwn yn rhannu cerbydau i’r safle.
Amserlen:
2.30yp Cyfarfod yn Neuadd Bentref Llanymynech, Ffordd yr Orsaf, Llanymynech, SY22 6EE.
Taith gerdded, yna dychwelyd i’r Neuadd Bentref
4.00yp Te / coffi a sgwrs
5.00yp CCB 2025
6.30yp ymlaen Cinio yng Ngwesty a Bwyty’r Bradford Arms, Llanymynech (ar draul eich hun)
Rhowch wybod i ni ar ancientcattlewales@gmail.com cyn 4ydd Hydref os byddwch chi’n ymuno â ni am swper. Anfonir bwydlenni’n fuan.
Mae croeso i bawb fynychu’r prynhawn cyfan, er mai dim ond aelodau’r Gymdeithas sydd â thâl fydd yn gallu pleidleisio yn y CCB. Mae ffurflenni adnewyddu yn cael eu hanfon at aelodau: gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd eich ffurflen a’ch taliad erbyn 20 Medi er mwyn derbyn dogfennau’r CCB a’r hawl i bleidleisio.
Mae croeso mawr i aelodau newydd: cysylltwch â ni os hoffech ymuno a helpu i warchod y brîd brodorol pwysig hwn.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni.