Nod y Gymdeithas
Diben cymdeithas Gwartheg Hynafol Cymru yw diogelu a hyrwyddo amrywiaeth lliw yr hen wartheg traddodiadol Gymreig.
Cred aelodau’r gymdeithas fod diogelu amrywiaeth gwartheg hynafol Cymru yn rhan bwysig o’r etifeddiaeth amaethyddol Gymreig.
Mae’r ffaith iddyn nhw oroesi cyhyd yn brawf o’u dycnwch, eu defnyddioldeb a’u haddasrwydd i dirwedd mynyddog a gerwin Cymru.
Heddiw, mae gwerth iddynt o’r newydd fel rhan o dreftadaeth amaethyddol gyfoethog Cymru.
Ers ei sefydlu, bu’r gymdeithas yn ceisio:
- codi ymwybyddiaeth o fodolaeth a gwerth y gwartheg lliw Cymreig,
- gwarchod yr amrywiaeth o liwiau trwy gofrestru gwartheg priodol, a
- chreu marchnad benodol ar gyfer ein gwartheg hynafol.
Dechreuad y Gymdeithas
Yn ystod y 1970au, dechreuodd llond dwrn o ffermwyr i ddarganfod y gwartheg Cymreig hynny ar ucheldiroedd Cymru nad oedd yn ddu a dysgu am eu hanes. Gwnaethant hynny dan faner “Y Gwartheg Lliw Cymreig”. Cymerodd hyn sawl blwyddyn gan fod y gwartheg, gan mwyaf, ar ffermydd diarffordd. Erbyn 1981 roedd yr amser yn aeddfed i sefydlu cymdeithas frîd, fel y gwelwch o’r darn isod o’r Western Mail (yn Saesneg yn unig). Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y gymdeithas yn Nolgellau ym Medi 1981 a sefydlwyd Gwartheg Hynafol Cymru.

Yn y man cyntaf canolbwyntiwyd ar adeiladu cofrestr fuches drwy archwilio pob creadur addas, a hynny o niferoedd prin. Ers hynny mae’r gwaith o gynyddu nifer ac ansawdd y gwartheg wedi cynyddu. Mae Safon Brîd wedi ei sefydlu a cydnabyddir y lliwiau gan BCMS (British Cattle Movement Service).
Heddiw
Cynhelir arwerthiannau achlysurol a hysbysebir anifeiliaid unigol ar y wefan hon. Cafodd y brîd ei ychwanegu ar Restr Wylio Ymddiriedolaeth Goroesi Bridiau Prin (RBST) yn y categori Blaenoriaeth ym mis Mawrth 2025. Hefyd, mae’r gymdeithas yn ymdrechu i gael DEFRA (Department of the Environment, Food and Rural Affairs) i gydnabod y gwartheg fel brîd llawn. Cynhelir CCB a thaith fferm y brid pob mis Medi, sydd bob amser yn ddiwrnod difyr.
Y swyddogion cyfredol yw:
Llywydd Er Anrhydedd: | Bruce McKay, Pennal |
Is-Lywyddion Er Anrhydedd: | Ceinwen Owen; Siân a Gareth Ioan; Robert Clifton |
Cadeirydd: | Mike Lewis |
Is-Gadeirydd: | Helen Upson |
Ysgrifenyddion: | Jenny Davies a Jessi Stephens |
Trysorydd: | Jessi Stephens |
Swyddog y Wefan | Jane Ricketts Hein |
Cyn-Lywyddion ac Is-Lywyddion Er Anrhydedd: Tim Ash, Bovey Tracey (Llywydd Er Anrhydedd); Meirion Owen (Is-Lywydd Er Anrhydedd).
Mae croeso bob amser i aelodau newydd – p’un ai bod ganddyn nhw wartheg eu hunain ai peidio. Mae croeso i bawb sydd eisiau cynorthwyo i warchod a datblygu rhan allweddol o’n treftadaeth amaethyddol a diwylliannol.