Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Gŵyl Cynefin

When

12/09/2026 - 13/09/2026    
9:00 am - 11:00 pm

Where

Llangorse Multi-Activity Centre
The Gilfach, Llangorse, Powys, LD3 7UH
Map Unavailable

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddod ag ein stondin yng Ngŵyl Cynefin, dathliad deuddydd bywiog sy’n canolbwyntio ar y berthynas rhwng amaethyddiaeth, byd natur a chymuned cefn gwlad.

Yn ystod y trafodaethau, gweithgareddau ac adloniant, bydd sesiynau ar bori cadwriaethol, bywyd cudd ein gwrychoedd / perthi / llwyni, ffermio cydweithredol er lles y tirlun a gweithdai am chwilen y dom (dung beetles), gwyfynod, a’r pridd dan ein traed.  Bydd Alun Elydir (Fferm Cae Coch a chyflwynydd Ffermio) yn rhannu straeon, wedyn bydd noson o gerddoriaeth gwych gyda Gwilym Bowen Rhys a Lo-fi Jones.

Dewch i siarad â ni am pam taw Gwartheg Hynafol Cymru ydy’r brîd berffaith am ffermio er lles natur!

Mwy o wybodaeth fan hyn, gan gynnwys tocynnau a’r rhaglen lawn.

To top