Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Thaith Fferm 2024

When

05/10/2024    
12:00 pm - 4:00 pm

Event Type

Croeso i CCB a Thaith Fferm 2024.

Diolch i Jessi a Chris Stephens, Wallstone Farm, Portskewett, Sir Fynwy, NP26 5TU am y gwahoddiad.  Bydd amserlen y diwrnod fel a ganlyn:

12:00 Cyrraedd a choffi

12:30 Taith fferm ac asesiad stoc bridio ifanc

2:00 Cinio

3:00 Cyflwyniad ar Bori Cadwraeth

3.30 Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Mae gan Jessi a Chris fferm o anifeiliaid brîd prin, felly yn ogystal â’r gwartheg GHC mae ganddyn nhw foch Cymreig pedigri a gwartheg Jersey o’r boblogaeth wreiddiol.

Bydd cinio pastai a thatws ar gael am gost o £12.  Rhowch wybod i ni am eich dewis ymlaen llaw a rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau fel y gellir arlwyo ar eu cyfer. (Mae croeso i chi ddod â’ch pecyn bwyd eich hun os byddai’n well gennych). Y dewis yw: cig eidion a chwrw, cig eidion a chaws glas, neu gaws, tatws a chennin.

Rhowch wybod i Jenny Davies am eich bwriad i fod yn bresennol erbyn dydd Sul, 29 Medi.  E-bost: ancientcattlewales[at]gmail[dot]com

To top