{"id":1287,"date":"2012-05-25T14:09:33","date_gmt":"2012-05-25T14:09:33","guid":{"rendered":"http:\/\/ancientcattle.local\/hanes\/"},"modified":"2024-03-18T20:27:43","modified_gmt":"2024-03-18T20:27:43","slug":"hanes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/","title":{"rendered":"Hanes"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading has-text-align-center\">Hanes Lliwgar<\/h2>\n\n\n\n<p>Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion \u00e2 chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda.<\/p>\n\n\n\n<p>Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion Deheubarth, ers canrifoedd cyn cof nes i\u2019r fuches gael ei symud oddi yno yn 1976. Yn 1992, ar \u00f4l bwlch o chwarter canrif, daeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol \u00e2\u2019r fuwch wen Gymreig yn \u00f4l i Ddinefwr i grwydro tiroedd yr Arglwydd Rhys unwaith eto.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir disgrifiadau o wartheg, yn enwedig teirw, yng nghywyddau beirdd y Canol Oesoedd. Yn ogystal \u00e2 theirw duon ceir cyfeiriadau at rhai duon \u00e2 chynffon wen (rhonwyn), teirw cochion Morgannwg a tharw trilliw o Lanbryn-mair. Sonir hefyd am fuchod \u2018cwrw a llaeth\u2019 Maesyfed a gwartheg coch a choch wynepwen ym Morgannwg. Mewn cofnodion ffeiriau yng ngogledd Sir Benfro oddeutu\u2019r flwyddyn 1600 cofnodwyd dros 15 o amrywiadau lliw mewn gwartheg brodorol a werthwyd yno.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd tueddiadau lleol i liwiau gwartheg yn aml. Ymddengys fod gwartheg duon yn nodweddiadol iawn o wartheg M\u00f4n a Phenfro tra bod gwartheg llygliw yn boblogaidd ym Mhen Llyn. Sonir am wartheg coch wyneplwyd ym Maldwyn a\u2019r gororau tra gwelwyd llawer o wartheg llwyd yn Nyffryn Banw. Nodir bod gwartheg gleision yn boblogaidd yn ardal Llanfair Caereinion a bu\u2019n goel hyd heddiw mewn llawer ardal i gynnwys buwch las mewn buches odro er mwyn cyfoethogi\u2019r laeth. Roedd gwartheg cochion Morgannwg, a ystyrid yn frid o\u2019u rhan eu hunain, yn aml yn cynnwys gwartheg cefngwyn a bolwyn. Ym Meirionnydd, o bosibl o ganlyniad i Robert Vaughan o Nannau fewnforio gwartheg Lakenfelder o\u2019r Almaen yn y 19eg ganrif, datblygwyd straen o wartheg cenglog Cymreig a all fod yn ddu neu goch. Ceir cyfeiriadau aml hefyd mewn cofnodion at wartheg brith, brych a broc.<\/p>\n\n\n\n<p>O sefydlu Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig yn 1905 safonwyd lliw\u2019r fuwch Gymreig yn ddu a chafwyd gwared ar lawer o\u2019r amrywiadau lliw. Cynyddodd y tueddiad gyda\u2019r deddfau trwyddedu teirw yn 1914 a 1933 a prinhaodd yr amrywiadau lliw gydol yr ugeinfed ganrif. Er hynny, cadwyd peth stoc lliw ar ambell i fferm dros y ganrif \u2013 yn enwedig drwy deirw gwynion a cenglog nas cofrestrwyd a pharhaodd lliwiau sy\u2019n ymgiliol i\u2019r lliw du yn y fuches Gymreig yn gyffredinol. Mae\u2019n debyg fod nodweddion y fuwch lwyd a gwartheg Morgannwg wedi eu colli erbyn heddiw ond mae chwech lliw i\u2019w cael o hyd:<\/p>\n\n\n\n<p>gwyn,&nbsp;&nbsp; cenglog,&nbsp;&nbsp; cefngwyn,&nbsp;&nbsp; coch,&nbsp;&nbsp; glas,&nbsp;&nbsp; llygliw<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hanes Lliwgar Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion \u00e2 chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda. Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":21,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"iawp_total_views":39,"footnotes":""},"class_list":["post-1287","page","type-page","status-publish","hentry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v26.8 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Hanes - Ancient Cattle of Wales<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Hanes - Ancient Cattle of Wales\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Hanes Lliwgar Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion \u00e2 chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda. Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ancient Cattle of Wales\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2024-03-18T20:27:43+00:00\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"2 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\/\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/\",\"url\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/\",\"name\":\"Hanes - Ancient Cattle of Wales\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/#website\"},\"datePublished\":\"2012-05-25T14:09:33+00:00\",\"dateModified\":\"2024-03-18T20:27:43+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Hanes\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/#website\",\"url\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/\",\"name\":\"Ancient Cattle of Wales\",\"description\":\"Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Hanes - Ancient Cattle of Wales","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Hanes - Ancient Cattle of Wales","og_description":"Hanes Lliwgar Er mai gwartheg duon fu fwyaf cyffredin yng Nghymru erioed mae nifer o liwiau erall hefyd wedi bodoli ar hyd yr oesau. Ceir cyfeiriad at wartheg gwynion \u00e2 chlustiau cochion mewn llenyddiaeth Wyddelig gynnar ac fe gyfeirir atynt hefyd yng Nghyfraith Hywel Dda. Bu gwartheg gwynion yn nodwedd o Gastell Dinefwr, llys tywysogion [&hellip;]","og_url":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/","og_site_name":"Ancient Cattle of Wales","article_modified_time":"2024-03-18T20:27:43+00:00","twitter_misc":{"Est. reading time":"2 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/","url":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/","name":"Hanes - Ancient Cattle of Wales","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/#website"},"datePublished":"2012-05-25T14:09:33+00:00","dateModified":"2024-03-18T20:27:43+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/hanes\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Hanes"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/#website","url":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/","name":"Ancient Cattle of Wales","description":"Conserving and promoting colour varieties of the old traditional Welsh cattle","potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1287","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1287"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1287\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1719,"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1287\/revisions\/1719"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ancientcattleofwales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1287"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}