Heddiw, y lliw hwn, ynghyd â’r lliw cenglog, yw’r mwyaf poblogaidd o’r lliwiau answyddogol y gwartheg Cymreig. Yn sicr, dyma’r lliw sy’n cael ei ddogfennu hiraf mewn hanes. Yn wreddiol, roedd pobl yn ffafrio gwartheg â chlustiau coch. Heddiw, mae gan y mwyafrif o wartheg gwyn Cymreig glustiau du, er bod unigolion â chlustiau coch gwan yn dal yn digwydd. Ar un pryd, roedd y lliw hwn yn fwy cyffredin yn Ne Cymru nac yn y Gogledd. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd dwy yrr yn bodoli yn Ne Cymru. Cafodd y gyrr yn Lamphey Court, Penfro, eu gwasgaru ym 1918; cafodd yr un yn Ninefwr, Llandeilo ei symud i Northumberland ym 1980. Ym 1872, cyflwynodd Syr (Duff) Assheton-Smith yrr o wartheg Parc Gwyn o Argyllshire i Barc Faenol, Bangor. Cafodd y gyrr hyn ei symud i Shugborough, Swydd Stafford ym 1980.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.