Yn draddodiadol, mae’r gwartheg glas Cymreig yn well i’w godro na’r Gwartheg Duon Cymreig. Heb os, roedd pobl yn credo hyn ar ôl i deirw Byrgorn gael eu defnyddio mewn rhai gyrr Cymreig. Cafodd y brîd Albion Glas ei ffurfio yn Derbyshire drwy groesi gwartheg Duon Cymreig a oedd wedi cael eu mewnforio gyda theirw Byrgorn gwyn neu frith. Efallai bod ar rai o’r gwartheg glas Cymreig ddyled i’r gwartheg croes Byrgorn am eu lliw yn y gorffennol, ond cafodd y lliw ei gofnodi ymysg y gwartheg Cymreig cyn cyflwyno’r gwartheg Byrgorn, a gwelir perthynas agos yng Ngogledd Cymru rhwng yr amrywiaethau gwyn, y cefnwyn a’r glas.
Comments are closed, but trackbacks and pingbacks are open.