Dyma’r lliw mwyaf cyffredin, ar wahan i’r du, mewn gwartheg Cymreig. Mae’n ymddangos yn gyson ymysg gyrr i fyny ac i lawr y wlad gan gynnwys nifer o rai pedigri. Hyd yn hyn, ychydig o ddiddordeb yn unig sydd wedi bod mewn bridio gwartheg coch, sy’n bridio’n gyson gan fod y lliw yn wan. Does dim llawer o berygl y bydd y lliw’n diflannu yn y dyfodol agos. Mae’r coch yn llachar iawn mewn gwartheg Cymreig, ac mae’n eithaf gwahanol i’r coch tywyll, cyfoethog y Devon.